Ydy’r peth ‘ma arno? Is this thing on?

Helô bawb! Croeso i flog teithio Ceredigion Gyfyngedig =) 

Welcome to the Ceredigion Off-limits travel blog =)


Helô bawb! Croeso i flog teithio Ceredigion Gyfyngedig =) 

Fe ddechreuon ni weithio yng Ngheredigion a’r cyffiniau yn 2017 yn gwneud popeth o fewn ein gallu i ddiogelu a chofnodi unrhyw beth yn ymwneud â’n treftadaeth o’r 19eg ganrif a’r 20fed ganrif. Mae’n rhan o brosiect cenedlaethol rydyn ni wedi ymgymryd ag ef gyda chwe grŵp arall i helpu i warchod Treftadaeth Cymru. Rydyn ni wedi bod yn ymchwilio i sut mae bywyd yn y cartref a’r gwaith wedi datblygu mewn gwahanol ffyrdd ac i’r llefydd mae pobl wedi mynd iddyn nhw am adloniant.

Oedolion ifanc yw’r rhan fwyaf o aelodau’r panel, ac mae croeso i bawb o 16 i 25 oed ymuno â ni. Fe fyddwn ni’n cyfarfod yn rheolaidd yn swyddfeydd y Comisiwn Brenhinol bob dydd Iau. Fe fyddwn ni’n gwneud ymchwil yn y fan hyn ac yn cynllunio popeth, gan gynnwys y lleoedd y byddwn ni’n ymweld â nhw, ein thema ar gyfer y flwyddyn, ac i ba gyfeiriad y byddwn ni’n mynd nesaf. Mae’r cyfan yn cael ei arwain gan bobl ifanc ac felly mae gan bawb lais yn y ffordd mae pethau’n cael eu rhedeg yma! Mae’n dipyn o hwyl ac yn rhoi grym yn ein dwylo =) 

Rydyn ni ar hyn o bryd ym mlwyddyn olaf y prosiect Treftadaeth Ddisylw ac yn canolbwyntio ar adloniant a hamdden yng Ngheredigion, gan gynnwys y sinemâu sydd wedi ymddangos ac wedi diflannu yn ardal Aberystwyth, yn ogystal â’r eglwysi a chapeli a oedd yn ffurfiau cynnar ar adloniant, yn y 19eg ganrif yn arbennig.

Fe fyddwn ni’n siwr o anfon postiad arall cyn bo hir. Felly cadwch eich llygaid ar agor am y newyddion diweddaraf ar ein blog teithio: https://ceredigionofflimits.home.blog


Why hello there! Welcome to the Ceredigion Off-Limits travel blog!

We’ve been working in and around Ceredigion since 2017 doing what we can to preserve and record anything to do with our heritage. So anywhere between the 19th and 20th Century. It’s a part of the national project we’ve undertaken along with six other groups to do our bit in preserving Welsh Heritage, whether it’s how home life or working life has evolved in different ways and the places where we’ve enjoyed ourselves with local entertainment.

Most of the panel is comprised of young adults, but we welcome anyone from the ages of 16 to 25 and regularly meet in the Royal Commission every Thursday. We research and plan everything from here including where we’d like to visit, our theme for the year and generally the direction we would like to go next. It’s all youth-led which gives each one of us a voice in the way things are run here! It’s great fun and empowering =) 

We are currently on our last year on the Unloved Heritage project focusing on entertainment and leisure times of Ceredigion, including the many cinemas that have appeared and disappeared within and around Aberystwyth, as well as churches and chapels which were early forms of entertainment in the 1800s predominantly. 

Will be sure to post again soon. Keep your peepers peeled for updates and new content on our very own travel blog https://ceredigionofflimits.home.blog